Cei Goetre
Y porth i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Cei Goetre wedi'i lleoli ar y gamlas gyda dros 200 mlynedd o dreftadaeth ddiwydiannol i'w darganfod. Mae'r safle bellach wedi'i datblygu ar gyfer gweithgareddau hamdden o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol, ond gan gadw nifer o'i nodweddion hanesyddol.

Gall fod yn lle diddorol i ymweld am awr neu ddiwrnod, neu fel rhan o daith i'r ardal gyfagos gyda safleoedd Treftadaeth y Byd Big Pit Blaenafon a Chanolfan Ymwelwyr y Safleoedd Haearn. Gallwch hyd yn oed defnyddio'r Cei fel eich man cychwyn ac aros yn y bwthyn hanesyddol a oedd yn gartref i fecanwaith y bont bwyso a swyddfa'r rheolwr yn wreiddiol. Mae'r bwthyn gyferbyn â'r draphont ddŵr sy'n cario Camlas Mynwy ac Aberhonddu, a gallwch fynd o dan y draphont i gyrraedd llwybr halio'r gamlas a llwybr Beicio Cenedlaethol.
Mae caffi a bar coffi ar y safle gyda thoiledau cyhoeddus ar gael yn ystod yr oriau agor. Gallwch fwynhau diodydd a bwyd cynnes neu oer, neu ddod â phicnic gyda chi ac eistedd nesaf at yr odynau calch.



Cysylltu â ni
Goytre Wharf
Llanover
Abergavenny
Monmouthshire
NP7 9EW
Telephone: 01873 880 516
Email: abclg@goytrewharf.com